Pentre Awel - Home
Croeso i Ganolfan Pentre Awel, lle sy’n hybu arloesedd, llesiant a chymuned.
Mae Canolfan Pentre Awel yn targedu sefydliadau o bob maint i fanteisio ar y swyddfeydd a’r mannau cydweithio newydd o’r radd flaenaf yn natblygiad newydd Llanelli gwerth miliynau o bunnoedd.
Nid lle yn unig yw Canolfan Pentre Awel – dyma weithle sydd wedi'i addasu i'ch anghenion. Mae'r swyddfeydd hyblyg wedi'u cynllunio i hybu cynhyrchiant, gan gynnig amgylchedd ysbrydoledig ac effeithlon. Gall mannau busnes yng Nghanolfan Pentre Awel gael eu teilwra i anghenion unigol..
Bydd Canolfan Pentre Awel hefyd yn cynnig mannau addysg, ymchwil a datblygu busnes, gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Chwaraeon a Hamdden Actif, a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch eraill.
Ymunwch â'n cymuned sy'n ffynnu! !
Ein Partneriaid
Mae Canolfan Pentre Awel yn cael ei darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, prifysgolion a cholegau, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.
Mae'n cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40 miliwn).