Croeso i Ganolfan Pentre Awel, lle sy’n hybu arloesedd, llesiant a chymuned.
Mae Canolfan Pentre Awel, ar arfordir Llanelli, wedi'i chynllunio i feithrin cydweithio, byw'n iach a llesiant. Mae Canolfan Pentre Awel yn croesawu unigolion, teuluoedd a busnesau o bob cefndir i brofi cymuned ffyniannus y Ganolfan.
Ydych chi'n chwilio am wasanaethau llesiant, eisiau lle newydd ar gyfer eich busnes, am fanteisio ar ein hadnoddau neu angen lle croesawgar i gwrdd ag eraill? Mae Canolfan Pentre Awel yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau, gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u teilwra i'ch anghenion. Mae rhywbeth i bawb yma yng Nghanolfan Pentre Awel.
Yng Nghanolfan Pentre Awel, rydyn ni'n deall pwysigrwydd byw'n iach, a dyna pam rydyn ni wedi creu amgylchedd sy'n rhoi eich iechyd wrth ei galon.
Dewch i archwilio ein lleoedd, dysgu am ein gwasanaethau ac ymuno â ni wrth i ni weithio gyda'n gilydd i greu dyfodol ffyniannus i Lanelli, Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.
Hanes y safle
Mae gan safle Canolfan Pentre Awel hanes a threftadaeth gyfoethog.
Yn 1861, roedd y safle'n gartref i gwmni gwaith brics a gafodd ei sefydlu gan William Thomas. Roedd e’n ffigur amlwg a oedd wedi manteisio ar yr ardal, lle roedd llawer o ddyddodion clai. Roedd Thomas hefyd yn gyfrifol am adeiladu'r bloc preswyl cyntaf ar gyfer ei weithwyr, oedd â’r llysenw Brick Row.
Erbyn diwedd y 19eg ganrif, ar y safle roedd iardiau Gwaith Tunplat De Cymru a gafodd ei sefydlu gan Edward Moorewood a John Rogers. Y seilwaith helaeth hwn oedd nodwedd amlycaf yr ardal. Ychwanegwyd rhagor o draciau rheilffordd a mannau llwytho ar lan y sianel llongau er mwyn ymdopi â'r holl nwyddau a oedd yn dod o'r ardal.
Ar ôl i Waith De Cymru fynd yn adfail erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, cafodd y safle ei drawsnewid yn Llynnoedd Delta. Cafodd llwybrau newydd eu gosod a ffyrdd eu creu, gan gynnwys y gylchfan sydd yn Llynnoedd Delta heddiw.
Sut rydyn ni wedi adeiladu ar yr hanes?
Mae ymyrraeth a buddsoddiad wedi'u targedu wedi galluogi'r Cyngor Sir i ddefnyddio'r safle unwaith eto.
Fel mae ei enw yn awgrymu, mae Pentre Awel yn seiliedig ar ddod â'r tu allan i mewn.
Roedden ni wedi gwneud penderfyniadau pensaernïol bwriadol i gynrychioli ei amgylchedd naturiol, gan gynnwys ffenestri mawr, mannau agored, paneli pren, a gadael i ddigonedd o olau lifo i'r lle.