Dydd Llun | 06:00 - 23:00 |
---|---|
Dydd Mawrth | 06:00 - 23:00 |
Dydd Mercher | 06:00 - 23:00 |
Dydd Iau | 06:00 - 23:00 |
Dydd Gwener | 06:00 - 23:00 |
Dydd Sadwrn | 07:30 - 17:30 |
Dydd Sul | 07:30 - 20:00 |
Dydd Llun | 06:00 - 23:00 |
---|---|
Dydd Mawrth | 06:00 - 23:00 |
Dydd Mercher | 06:00 - 23:00 |
Dydd Iau | 06:00 - 23:00 |
Dydd Gwener | 06:00 - 23:00 |
Dydd Sadwrn | 07:30 - 17:30 |
Dydd Sul | 07:30 - 20:00 |
Mae toiledau ar gyfer pobl anabl ym mhob un o'n hadeiladau ac ar bob llawr..
Mae'r caffi yng Nghanolfan Pentre Awel yn lle cynnes a chroesawgar i ymwelwyr ymlacio a mwynhau dewis o brydau bwyd wedi'u paratoi'n ffres, byrbrydau a diodydd. Yma, gallwch chi gael coffi cyflym, cinio ysgafn neu seibiant ar ôl archwilio'r Ganolfan. Mae awyrgylch clyd yn y caffi a bwydlen sy'n cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Mae gan Ganolfan Pentre Awel gysylltiadau da o ran trafnidiaeth, sy'n ei gwneud yn hawdd ei chyrraedd o ddinasoedd mawr ac ardaloedd lleol.
Teithio ar y bws: mae llwybr bysiau lleol yn cysylltu Canolfan Pentre Awel â lleoliadau allweddol, sy'n sicrhau mynediad cyfleus i'r amwynderau a'r gwasanaethau.
L1 a L2: bob 90 munud rhwng 08:20 a 17:57
Mae'n cysylltu canol tref Llanelli, Parc Pemberton, Parc Trostre, Penyfan, Morfa, Canolfan Pentre Awel, Dyffryn y Swistir, Ysbyty'r Tywysog Philip a Felin-foel.
Teithio ar y trên: mae gorsaf drenau Llanelli gerllaw ac mae gwasanaethau rheolaidd i Abertawe, Caerdydd, Manceinion, Llundain a thu hwnt.
Mae Gorsaf Drenau Llanelli 0.7 milltir i ffwrdd.
Teithio mewn car: cysylltiadau ffyrdd cyfleus a digon o leoedd parcio.
Mae Pentre Awel yn hawdd i yrwyr ei gyrraedd, sy’n sicrhau taith hwylus ac effeithlon i'r lleoliad ac oddi yno.
Teithiau cerdded prydferth: Mae Canolfan Pentre Awel wedi'i chysylltu â'r ardal gyfagos gan amrywiaeth o lwybrau cerdded sydd wedi'u cynllunio'n dda. Dilynwch Lwybr Arfordirol y Mileniwm i fwynhau arfordir godidog Sir Gaerfyrddin, profi golygfeydd trawiadol a gweld bywyd gwyllt lleol.
Gallwch chi fwynhau egwyl a lluniaeth yng Nghanolfan Pentre Awel yn ystod eich taith gerdded 13 milltir.
Rhagor o wybodaeth ar Darganfod Sir Gâr.
Llwybrau Beicio Sir Gaerfyrddin: Mae Canolfan Pentre Awel mewn lleoliad delfrydol ac mae ganddi gysylltiadau ardderchog drwy rwydwaith o lwybrau beicio, sy'n golygu ei bod hi'n hawdd ei chyrraedd i'r rhai sydd am feicio. Mae'r llwybrau hyn, sydd wedi'u cynnal yn dda, yn cysylltu'r safle'n hwylus ag ardaloedd cyfagos, gan gynnig dewis cynaliadwy ac iach o ran teithio.
Croeso i'r adran Cwestiynau Cyffredin! Mae'r tîm yng Nghanolfan Pentre Awel wedi paratoi atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydyn ni'n eu cael am ein hadeilad a'n gwasanaethau. P'un a ydych chi'n cynllunio ymweliad, angen cymorth neu eisiau dysgu mwy am beth mae Canolfan Pentre Awel yn ei gynnig, mae gwybodaeth ddefnyddiol i chi yma. Os nad ydych chi'n gweld eich cwestiwn, cysylltwch â ni:
E-bost: pentreawel@sirgar.gov.uk
Oes! Mae WiFi ar gael i'r cyhoedd drwy'r adeilad. Gofynnwch i aelod o staff am enw'r rhwydwaith a'r cyfrinair
Oherwydd natur glinigol ein cyfleuster, nid oes hawl i gŵn ddod i mewn i'r adeilad, ac eithrio'r rhai sydd eu hangen at ddibenion meddygol.
Mae croeso i anifeiliaid gwasanaethu sydd wedi'u hyfforddi i helpu unigolion ag anableddau, a gallan nhw fynd gyda'u perchnogion bob amser.
Gallwch chi gofrestru i gael llythyr newyddion Canolfan Pentre Awel drwy ddilyn y ddolen hon. Mae'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddigwyddiadau a rhagor o wybodaeth am yr adeilad. Cyngor Sir Caerfyrddin