Hydref 2025
Trigolion a chlybiau chwaraeon Llanelli oedd y bobl gyntaf i gael eu croesawu i Canolfan Pentre Awel, sydd wedi agor heddiw, 15 Hydref 2025.
Croesawyd y gymuned leol drwy'r drysau gan Arweinydd ac aelodau Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin, wrth i Canolfan Pentre Awel agor i'r cyhoedd.
Dyma un o'r cynlluniau adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru, a Canolfan Pentre Awel yw cam cyntaf y prosiect hwn, sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraethau'r DU a Chymru a Chyngor Sir Caerfyrddin. Rhoddwyd £40 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru).
Yn ystod yr hyn oedd yn garreg filltir o bwys i un o brosiectau mwyaf nodedig Sir Gaerfyrddin, daeth grwpiau chwaraeon lleol i gael eu sesiwn hyfforddi agored gyntaf yn y cyfleuster newydd.
Canolfan Pentre Awel yw datblygiad diweddaraf Llanelli, gan ddod â'r sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector at ei gilydd o dan yr un to, gyda'r nod o wella iechyd a llesiant, rhoi hwb i'r economi a chefnogi pobl ar bob cam o fywyd. Y prosiect yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae llwybrau bysiau'n arwain yn hwylus at Canolfan Pentre Awel; llwybrau sy'n cysylltu canol tref Llanelli, Parc Pemberton, Parc Trostre, Penyfan, Morfa, Canolfan Pentre Awel, Dyffryn y Swistir, Ysbyty'r Tywysog Philip a Felin-foel.
Gan siarad ar y diwrnod agoriadol, dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae agor Canolfan Pentre Awel yn enghraifft glir o beth allwn ni ei wneud drwy gydweithio ar draws gwasanaethau, sectorau a chymunedau. Canlyniad blynyddoedd o weithio mewn partneriaeth yw Canolfan Pentre Awel, ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i wella iechyd, addysg a chanlyniadau economaidd i bobl Sir Gaerfyrddin. Mae'n cyd-fynd â'n hamcanion ehangach i gyflawni twf cynaliadwy, lleihau anghydraddoldeb a chreu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae Canolfan Pentre Awel yn sail i'n gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin gryfach ac iachach. Mae gweld pobl yn dechrau defnyddio'r lle ac yn ei berchnogi o'r diwrnod cyntaf fel hyn yn destun cyffro. Y gymuned sy'n bwysig i Canolfan Pentre Awel, ac mae'n enghraifft arbennig o beth all gael ei gyflawni pan fo'r holl sectorau'n dod ynghyd gyda'r un pwrpas a nod.
Bydd digwyddiad swyddogol i agor Canolfan Pentre Awel yn cael ei gynnal tua diwedd y flwyddyn, a bydd cynrychiolwyr yno o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach.