Hydref 2025
Mae Bernard Phillips yn 92 oed ac yn wyneb cyfarwydd yng Nghanolfan Hamdden Llanelli. Yn gynharach yr wythnos hon cafodd ei wahodd i Canolfan Pentre Awel fel yr aelod cyntaf o'r cyhoedd i nofio yn y cyfleusterau newydd yno.
Dyma beth oedd gan Bernard i'w ddweud wrth siarad am ei amser yng Nghanolfan Hamdden Llanelli:
Mae gyda fi atgofion melys dros y blynyddoedd yng Nghanolfan Hamdden Llanelli. Roedd dysgu pobl i nofio yn dod â shwd foddhad i mi, rwy' bob amser yn dweud wrth bobl am gymryd eu hamser ac ymlacio! Ond roedd Canolfan Hamdden Llanelli yn fwy na rhywle i fynd i nofio, roedd yn rhywle i fynd i gwrdd â phobl a chwerthin! Bydda i bob amser yn gwerthfawrogi fy atgofion yng Nghanolfan Hamdden Llanelli, ond rwy'n edrych ymlaen at greu rhai newydd yn Canolfan Pentre Awel.
Yn 1963 Bernard oedd y cyntaf i gamu i Bwll y Jiwbilî, a hynny ddiwrnod cyn y cyhoedd wedi i ffrind a oedd yn gysylltiedig â'r prosiect ganiatáu i ffrindiau gael 'mynediad cynnar' i'r safle. Yn ddiweddarach bu'n helpu ei berthynas Mike i wella, ar ôl i Mike gael damwain a'i gadawodd wedi torri ei wddf ac wedi'i barlysu.
Dywedodd Mike: “Ar ôl fy namwain, cafodd Bernard fi nôl yn y pwll ac yn nofio unwaith eto. 29 mlynedd yn ddiweddarach, nid wyf wedi edrych yn ôl”.
Yn gynharach yn ei fywyd roedd Bernard yn filwr. Rhoddodd ddwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol cyn gwasanaethu yn Rhyfel Corea, yn ogystal ag amser yn y Llynges Fasnach.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Roedd yn fraint wirioneddol cael croesawu Bernard, ei ffrindiau a'i deulu fel yr aelod cyntaf o'r cyhoedd i nofio yn y cyfleusterau newydd yn Canolfan Pentre Awel. Mae cysylltiad gydol oes Bernard â Chanolfan Hamdden Llanelli a'i ymroddiad i ddysgu a helpu eraill yn ymgorffori ysbryd ein cymuned. Diolch, Bernard.
I weld fideo o amser Bernard yn Canolfan Pentre Awel, gwyliwch y fideo hwn.